Nodwedd or cyfnod Neolithig yw amaethu planhigion a dofi anifeiliaid, cyflwyno crochenwaith a bwyeill carreg caboledig, ac adeiladur tai ar cofadeiliau cyntaf. Cliriwyd llawer ar goedwigoedd a defnyddiwyd strwythurau cerrig a phridd ar gyfer claddu ac i roi canolbwynt ar gyfer bywydau ysbrydol cymdeithasau. Er i fywyd ddod yn fwy sefydlog, y farn yw ei bod yn bosibl i elfennau or ffordd grwydrol o fyw barhau am rywfaint. Yr arteffactau syn dod ir amlwg amlaf or amser hwn yw offer fflint.