Rhoddir yr enwau Oesoedd Tywyll ac Oes y Saint ar y cyfnod hwn hefyd, ac maen cwmpasur cyfnod rhwng rheolaeth Rufeinig yn methu a Choncwest y Normaniaid. Lledaenodd Cristnogaeth a daeth teyrnasoedd ac iaith Cymru ir amlwg yn y cyfnod hwn, er iddyn nhw ddod dan bwysau o du grwpiau o Wyddelod, Llychlynwyr ac Eingl-Sacsoniaid. Prin ywr wybodaeth am anheddu, er i bobl symud yn l i fyw mewn rhai o'r bryngeyrydd o Oes yr Haearn. Y gweddillion mwyaf gweledol ac eiconaidd yw cofebion carreg wediu cerfio i unigolion, r ysgrifen mewn Lladin neur wyddor Ogam Wyddelig, a cherrig croes wediu cerfio a cherfluniau carreg o gyfnod ychydig yn ddiweddarach.