Archwilio-the easy way to discover the archaeology of Wales through the records of the four Welsh Archaeological Trusts.

Archwilio banner
Listen to the pronuncation of Archwilio

Archwilio [Ar-ch-wil-ee-o] vb, to explore, examine, audit

Sut gallwch chi ein helpu

Rydym yn ymdrechu i gadw’r CAH mor gyfoes, cyflawn a manwl gywir â phosibl, ond mewn ardaloedd mor helaeth gyda chynifer o safleoedd, nid yw hyn yn hawdd. Rydym felly’n annog pawb i’n helpu i gyflawni hyn yn y ffyrdd a ganlyn:

  • Os ydych wedi edrych ar ddata ar-lein, neu os ydym wedi anfon data atoch a chithau’n gweld bod y wybodaeth yn anghywir, rhowch wybod i ni
  • Os ydych yn ymchwilio i unrhyw agwedd ar archaeoleg yn ardaloedd ein Hymddiriedolaethau unigol, byddem yn ddiolchgar pe baech yn gadael i ni weld eich canlyniadau er mwyn i ni allu diwygio ein cofnodion i’w hadlewyrchu

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cael gwybod am ddarganfyddiadau newydd o fewn ardaloedd ein Hymddiriedolaethau. Os byddwch yn dod ar draws arteffact neu safle rydych yn meddwl nad ydym eisoes yn ymwybodol ohono, byddem yn falch o glywed oddi wrthych.

Beth yw Archwilio?

Archwilio yw’r system ar-lein i gyrchu Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol (CAH) Cymru. Datblygwyd y system trwy bartneriaeth rhwng pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru i ddarparu mynediad cyhoeddus ehangach i’r adnodd gwerthfawr hwn. Rydym o’r farn mai lledaenu gwybodaeth, gan arwain at ddealltwriaeth ehangach o’n treftadaeth ddiwylliannol a’r amgylchedd hanesyddol, yw’r offeryn cadwraeth mwyaf effeithiol. O gyfieithu Archwilio i’r Saesneg, mae’n golygu explore, examine neu audit ac felly mae’n crynhoi’r defnydd o’r CAH mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol.

Nod y pedwar cofnod amgylchedd hanesyddol rhanbarthol y mae pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru (WAT) yn eu llunio a’u cynnal yw darparu catalog cynhwysfawr o safleoedd a darganfyddiadau archaeolegol a hanesyddol o bob cyfnod ledled Cymru. Maen nhw’n cynnig cyfle unigryw i archwilio treftadaeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r pedwar cofnod rhanbarthol yn cynnwys tua 100,000 o gofnodion unigol, sy’n cael eu diweddaru a’u ehangu’n barhaus wrth i wybodaeth newydd ddod ar gael. Mae’r CAH yn cyflawni amrywiaeth eang o swyddogaethau, gan gynnwys cynorthwyo â rheoli a chyflwyno’r dirwedd hanesyddol yn gadarnhaol a rheoli cynllunio, ac mae’n ffynhonnell i’w defnyddio ar gyfer prosiectau hanes, cadwraeth a thwristiaeth lleol.

Mae'r CAH yn cwmpasu pob agwedd ar weithgarwch dynol yn y dirwedd o ddechrau’r cyfnod cynhanesyddol i’r ugeinfed ganrif, a hynny heb ragfarn. Gellir dod o hyd i fanylion safleoedd tra hysbys a rhai llai hysbys, yn ogystal â chofnodion a gynhyrchir trwy brosiectau archaeolegol sydd wedi mynd rhagddyn nhw yn yr ardal. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymchwilio i’ch ardal leol, neu ddarganfod mwy am gyfnod hanesyddol penodol, mae hwn yn lle da i ddechrau.

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent