Rydym yn croesawu ymholiadau ynghylch amgylchedd hanesyddol gogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru.
Trwy lansio Archwilio mae gan y cyhoedd fynediad ar-lein i bob un o bedwar Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Mae hyn yn caniatáu i bobl ymholi ac ymchwilio i wybodaeth am archaeoleg ac adeiladau hanesyddol Cymru wrth eu pwysau. Fodd bynnag, nid ydym yn disgwyl y bydd yn golygu na fydd angen mwyach i rai ymholwyr gysylltu â CPAT. Dylid parhau i gyfeirio ymholiadau cymhleth a’r rheini oddi wrth sefydliadau sy’n ymgymryd â chontractau masnachol at staff yr Ymddiriedolaeth.
Gellir gwneud ceisiadau am wybodaeth sy’n galw am amser staff CPAT trwy lythyr, dros y ffôn, trwy ffacs neu e-bost, neu drwy lenwi a dychwelyd y Ffurflen Ymholi sydd ar gael trwy’r ddolen yn Archwilio. Gall ymholwyr sy’n cysylltu â ni trwy e-bost ddisgwyl derbyn ateb yn cadarnhau bod eu cais wedi’i dderbyn ac yn rhoi awgrym o faint o amser y bydd yn ei gymryd i brosesu eu hymholiad. Pan fydd yr ymholwr yn ffacsio cais i’r CAH, mae disgwyl iddo ffonio i gadarnhau bod y ffacs wedi'i dderbyn.
At ddibenion gweinyddol, ac er mwyn atal camddefnyddio gwybodaeth, gofynnwn i ddefnyddwyr ddweud wrthym pam eu bod yn gwneud ymholiadau, a chytuno ar amodau a thelerau mynediad (gwelwch yr Amodau Defnyddio a Chanllawiau Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru ar gyfer Mynediad a Chodi Tâl).
Mae Archwilio yn cofnodi’n awtomatig y chwiliadau y mae ymholwyr ar-lein yn eu gwneud, ac ni chaniateir mynediad i wybodaeth ar-lein oni bai y cytunir i gydymffurfio â’n hamodau a’n telerau mynediad y gellir eu gweld trwy Archwilio.
Bydd gwybodaeth y mae angen i staff CPAT ei dwyn ynghyd yn cael ei throsglwyddo i’r ymholwr trwy'r cyfrwng mwyaf addas, naill ai yn electronig trwy e-bost, neu drwy’r post. Gellir casglu deunydd o swyddfeydd CPAT os gwneir trefniadau ymlaen llaw.
Dylid trefnu apwyntiadau cyn ymweld â Chofnod Amgylchedd Hanesyddol Clwyd-Powys yn bersonol; cysylltwch â’r Swyddog CAH i drefnu amser cyfleus i ymweld.
Oriau agor: - 10am - 1.00pm a 2.00pm - 5.00pm, Llun - Gwener
Darperir terfynell gyfrifiadurol i'r cyhoedd ei defnyddio yn swyddfeydd CPAT yn 41 Stryd Lydan er mwyn i'r cyhoedd allu mynd ati i chwilio eu hunain. Bydd aelod o staff ar gael i roi cyfarwyddiadau ac i gynorthwyo wrth ichi chwilio.
Gallwch ddefnyddio'r llyfrgell a'r ystafell gyfarfodydd yn 41Stryd Lydan i astudio amrywiaeth o lyfrau, cylchgronau, ffotograffau, mapiau, lluniadau a dogfennau printiedig sy'n ymwneud ag archaeoleg a hanes.
Mae yna gyfleusterau llungopïo a sganio ar gael.
Mae yna gyfleusterau toiled ar gael.
Mae’n ddrwg gennym fod gan swyddfeydd CPAT yn 41 Stryd Lydan dim ond mynediad a chyfleusterau cyfyngedig ar gyfer pobl ag anableddau. Rydym yn gobeithio bod cyflwyno Archwilio yn lliniaru’n fawr ar y sefyllfa hon ond yn cydnabod y bydd dal angen gweld deunyddiau copi caled a ddelir yn 41 Stryd Lydan ar gyfer rhai ymholiadau. Dan yr amgylchiadau hyn efallai bydd rhaid i staff Cofnod Amgylchedd Hanesyddol CPAT ateb yr ymholiad trwy ebost neu drwy’r post.
Mae yna hawl i weld yr HER i archwilio gwybodaeth bersonol sydd wedi'i chadw mewn system gyfrifiadurol sydd wedi'i chofrestru dan y Ddeddf Diogelu Data (1998). Cesglir y wybodaeth hon at ddibenion gweinyddu cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru a darparu cyngor archaeolegol. Defnyddir y wybodaeth i fonitro a gwella'r gwasanaethau y mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn eu cynnig. Ni ddarperir hi i unrhyw asiantaethau neu unigolion allanol.
Bydd gwaith papur ymholiadau CAH yn cael eu cadw am 3 blynedd, ac yna bydd yn cael ei ddinistrio.
Os oes gennych unrhyw ymholiad neu bryder ynglyn â hyn, cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru berthnasol (mae'r manylion cysylltu yn Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru Canllawiau ar gyfer Hawl i Weld a Chodi Tal.
Mynd i brif wefan CPAT yn www.cpat.org.uk

Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk